Y Cylch Mislif mewn Chwaraeon

Rydyn ni’n gwybod bod cylch y mislif yn effeithio ar athletwyr a chyfranogwyr benywaidd, gan effeithio'n negyddol ar hyfforddiant, perfformiad a chyfranogiad mewn chwaraeon. Ond does dim rhaid i hyn ddigwydd; gyda'r gefnogaeth briodol, sydd wedi’i datblygu drwy ymwybyddiaeth a dealltwriaeth wedi'u hymgorffori mewn hyfforddi ac arfer unigol, mae posib sicrhau’r perfformiad gorau posibl o hyd drwy gydol cylch y mislif.

Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig cyrsiau e-ddysgu cylch y mislif mewn chwaraeon. Mae 4 modiwl yn y cwrs yma, i weithio drwyddyn nhw yn eich amser eich hun:

  • Cylch y mislif 101
  • Bod yn agored a chael sgyrsiau am gylch y mislif
  • Hyfforddiant a pherfformiad cylch y mislif
  • Iechyd mislifol

Bwriad dysgu: mae'r cwrs yn darparu cyflwyniad i gylch y mislif mewn chwaraeon gan ganolbwyntio ar beth yw cylch y mislif, ymwybyddiaeth o symptomau a’u rheoli, ystyriaethau ar gyfer iechyd mislifol, a hefyd cyngor ar 'ddechrau'r sgwrs' gydag athletwyr a chyfranogwyr benywaidd.

 

Rhifynnau sydd ar gael:

Dyddiad Lleoliad Dull Dosbarthu Seddau Sy'n Weddill Pris
Ar agor nawr! eDdysgu Saesneg £0.00
Ar agor nawr! eDdysgu Cymraeg £0.00